Rhif y ddeiseb: P-06-1252


Teitl y ddeiseb
: Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19


Testun y ddeiseb:

Risg isel y mae plant iach yn ei wynebu o ran COVID-19 ond maent yn wynebu risgiau sy’n hysbys ac nad ydynt yn hysbys o frechiadau COVID-19. Mae digwyddiadau andwyol a marwolaethau prin, ond difrifol, yn cael eu cofnodi ar systemau monitro o amgylch y byd. Mae canllawiau swyddogol yn cael eu diweddaru wrth i’r sgil-effeithiau ddod yn fwy amlwg. Mae rhoi brechiadau COVID-19 i blant iach er mwyn diogelu oedolion yn anfoesol ac yn anghyfiawnadwy. Mae dyletswydd foesol ar y Llywodraeth i weithredu’n ochelgar ac yn gymesur.

 

 


Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor ar imiwneiddio gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (y Cyd-bwyllgor), sy'n cynghori pob un o bedair adran iechyd y DU. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar ddefnyddio brechlynnau COVID-19.

Ar 22 Rhagfyr 2021, cynghorodd y Cyd-bwyllgor y dylai plant 5-11 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, neu sy'n gyswllt cartref â rhywun sydd ag imiwnedd gwan, gael cynnig dau ddos o frechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech (Comirnaty®), gyda chyfnod o wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru y cyngor hwn. Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd “GIG Cymru yn nodi plant a phobl ifanc 5 i 11 oed cymwys yn y grwpiau “risg” ac yn dechrau cynnig apwyntiadau yn y flwyddyn newydd.”  

Bryd hynny, roedd cyngor y Cyd-bwyllgor yn nodi y bydd cyngor pellach ynghylch brechiadau COVID-19 ar gyfer plant 5-11 oed eraill yn cael ei gyhoeddi maes o law ar ôl ystyried data ychwanegol.

Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor gyngor wedi’i ddiweddauar 16 Chwefror 2022, gan argymell y dylid cynnig dau ddos o frechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech (Comirnaty®) i bob plentyn 5-11 oed nad ydynt mewn grŵp risg clinigol. Dylid cynnig y ddau ddos gyda chyfnod o 12 wythnos o leiaf rhyngddynt. Bwriad y cynnig hwn yw gwella imiwnedd unigolion sydd wedi'u brechu rhag COVID-19 difrifol cyn unrhyw don bosibl o COVID-19 yn y dyfodol.

Dywedodd y Cyd-bwyllgor y dylid cynnig y brechlyn ar sail ‘llai brys’, ac na ddylai hyn ddisodli'r gwaith o ddarparu rhaglenni imiwneiddio eraill i blant (heblaw COVID-19), na raglenni brechu COVID-19 ar gyfer grwpiau eraill. Pwysleisiodd hefyd: 

In all instances, the offer of vaccination must be accompanied by appropriate information to enable children, and those with parental responsibility, to provide informed consent prior to vaccination. Teams responsible for the implementation and deployment of COVID-19 vaccination for persons aged 5 to 11 should be appropriately trained and confident regarding the information relevant to the vaccination of these persons.

Mae'r cyngor a gyhoeddwyd yn tynnu sylw at nifer o ystyriaethau allweddol, gan gynnwys:

§    Y ffaith bod y rhan fwyaf o blant 5-11 oed yn cael clefyd asymptomatig neu ysgafn ar ôl cael eu heintio â SARS-CoV-2. Efallai y bydd rhai yn profi symptomau sy'n para'n hirach nag ychydig ddyddiau ar ôl cael COVID-19. Mae plant 5-11 oed nad ydynt mewn grŵp risg clinigol COVID-19 yn wynebu risg isel iawn o ddatblygu clefyd COVID-19 difrifol.

§  Rhagwelir y bydd brechu plant 5-11 oed nad ydynt mewn grŵp risg clinigol, mewn nifer fach o achosion yn y boblogaeth hon, yn atal yr angen i dreulio cyfnod yn yr ysbyty a derbyniadau gofal dwys; yn y tymor byr, byddai hefyd yn diogelu rhag haint nad yw'n ddifrifol (heintiau asymptomatig a symptomatig nad oes angen eu trin yn yr ysbyty).

§    Ni ddisgwylir y bydd brechu plant 5-11 oed nad ydynt mewn grŵp risg clinigol yn effeithio ar y don bresennol o haint Omicron. Bydd y manteision posibl o frechu yn berthnasol yn bennaf i don o haint yn y dyfodol. Y mwyaf difrifol yw unrhyw don y dyfodol, y mwyaf yw'r manteision tebygol yn sgil brechu. Ar y llaw arall, y lleiaf difrifol yw unrhyw don y dyfodol, y lleiaf yw'r manteision tebygol yn sgil brechu.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Derbyniodd Llywodraeth Cymru gyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar 15 Chwefror 2022. Nid yw'r brechiad COVID-19 yn orfodol. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Byddwn yn annog pob teulu sydd â phlant rhwng pump ac 11 oed, nad ydynt mewn unrhyw grwpiau risg glinigol, i fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael gwybodaeth am frechu ac i ddechrau sgwrs ynghylch a ydynt eisiau manteisio ar y cynnig hwn.

Cyhoeddwyd strategaeth frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru wedi'i diweddaru ar 24 Chwefror 2022. O ran brechu plant 5-11 oed, mae’r strategaeth yn nodi:

Rhaid rhoi’r cyfle i blant mor ifanc â hyn gael rhiant neu warcheidwad gyda nhw tra byddant yn cael eu brechu ac mae'r ffaith nad yw'r cyngor yn cynnwys blaenoriaethu unrhyw oedrannau penodol yn ei gwneud yn haws i frodyr a chwiorydd cymwys gael eu brechu ar yr un pryd.

Mae GIG Cymru eisoes wedi dechrau cyflwyno'r rhaglen hon i frechwyr hyfforddedig pediatrig diogel a chanolfannau brechu sy'n ystyriol o blant. Mae byrddau iechyd yn adeiladu ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu o frechu plant 5-11 oed sy'n wynebu risg yn glinigol a phobl ifanc 12-15 oed ac maent yn ystyried yn ofalus sut i sicrhau tegwch o'r cychwyn cyntaf. Mae plant wedi colli cryn dipyn o amser dysgu yn ystod y pandemig ac, er mwyn sicrhau na fydd y rhaglen frechu yn amharu ymhellach ar addysg plant yn ddiangen, ni fwriedir brechu mewn ysgolion.

Mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod y canllawiau imiwneiddio a chanllawiau clinigol angenrheidiol ar gael, a bod gwybodaeth ffeithiol a dibynadwy ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i blant a rhieni ei hystyried wrth wneud eu penderfyniad. Nid yw'r brechlyn yn orfodol a gall teuluoedd ddewis p'un a ddylid cael y brechlyn ai peidio. Byddem yn annog teuluoedd i ddechrau cael sgyrsiau am y cynnig a threulio amser yn ystyried yr wybodaeth cyn penderfynu a ddylent dderbyn y cynnig ai peidio.

Ar 16 Chwefror 2022, derbyniodd y llywodraethau yn Lloegryr Alban Gogledd Iwerddon gyngor y Cyd-bwyllgor hefyd.

Ymateb rhanddeiliaid

Ar 17 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (y Coleg) ddatganiad mewn ymateb i argymhelliad y Cyd-bwyllgor ar gynnig brechiad COVID-19 i bob plentyn 5-11 oed. Dywedodd y Coleg ei fod yn cydnabod gwaith craffu gofalus y Cyd-bwyllgor wrth asesu’r manteision a’r risgiau iechyd yn sgil cynnig y brechlyn COVID-19 i blant 5-11 oed iach. Mae'n tynnu sylw at y pwyntiau a ganlyn:

It is a priority that 5-11 year olds who are deemed to be at risk of COVID infection or who are living with family members who are immunosuppressed, receive this vaccine. […]

Delivering a vaccination programme to 5-11 year olds will require careful planning in order to ensure a favourable experience for children. Finding child-friendly vaccination sites, staffed with appropriately trained professionals, will be important and should facilitate equal access to all children which is key to avoiding disadvantaging some families. Governments should develop information and materials that are parent-and-carer friendly, and suitable for children, to facilitate their decision making.

Measles is much more infectious than COVID-19 and potentially a serious illness for children, especially the very young. We know uptake rates of the vaccine for Measles, Mumps, Rubella (MMR) as well as other routine vaccinations are decreasing, but these are potentially life saving. In the UK we are fortunate to have a very successful childhood immunisation programme which is highly effective. The COVID-19 vaccination must not displace others and Government must take action to ensure uptake of these routine vaccinations is increased.

Mae nifer o wledydd ledled y byd wedi bod yn cynnig brechlynnau i blant 5-11 oed ers rhai misoedd, gan gynnwys AwstraliaUDACanadaJapan a gwledydd ar draws yr UE. Mae Sefydliad Iechyd y Byd a’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Rheoli Clefydau ill dau wedi cefnogi brechu'r grŵp oedran hwn.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.